Skip to content ↓

Ysgol Sy’n Parchu Hawliau / A Rights Respecting School

Rydym yn falch iawn i fod yn Ysgol sy'n Parchu Hawliau Plant

We are very proud to be a Rights Respecting School

Mae'r Comisiynydd Plant Cymru yma i sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Cymru yn dod i wybod am eu hawliau.  Mae'r hawliau hyn yn bethau sydd angen ar blant a phobl ifanc i fod yn ddiogel, yn iach ac yn hapus. Mae gan y Cenhedloedd Unedig restr o'r holl hawliau sydd gan blant. Enw'r rhestr hon yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, neu CCUHP yn fyr.

 

The Children's Commissioner for Wales is there to make sure that all children and young people in Wales find out about their rights. These rights are the things that children need to be safe, healthy and happy. The United Nations has a list of all the rights that children have. The list is called the UN Convention on the Rights of the Child, or UNCRC for short.

Poster Hawliau Plant

Rights of the Child Poster

 

Enillodd yr ysgol y wobr Efydd am Ysgol sy'n Parchu Hawliau yn 2020.

The school won the Bronze award for a Rights Respecting School in 2020.

Mae disgyblion yn ein hysgol ni yn dysgu a defnyddio eu hawliau nhw o fewn y cwricwlwm a bywyd ysgol bob dydd. Mae Hawliau Plant wedi'u gwreiddio ymhob dosbarth a chaiff y plant cyfleoedd i ymarfer eu hawliau trwy leisio barn, cynnig syniadau, parchu syniadau eraill a dysgu am wahanol agweddau o’u bywyd nhw a bywydau plant ledled y byd sydd yn ymwneud gyda hawliau plant.  

 

Mae’n bwysig bod pob dysgwr o oedran cynnar yn adnabod beth sy’n eu cadw nhw'n hapus, yn iach ac yn ddiogel. Rydym yn dysgu Hawl y Mis, yn derbyn gwersi penodol ar Hawliau Plant ac hefyd mae gennym Lysgenhadon Gwych sydd yn sicrhau ein bod ni fel ysgol yn mabwysiadu ac ymarfer yr hawliau yma a bod disgyblion yn ymwybodol o’u hawliau nhw. 

 

Learners in our school learn and use their rights everyday within the curriculum and school life. Children's Rights have been embedded in each class and learners are given the opportunity to practice their rights through pupil voice, lesson ideas, respecting other people's views and opinions and learning about different aspects of their own lives and the lives of other children around the world.

 

It is important that from an early age, every learner knows what keeps them happy, healthy and safe. We learn a Right of the Month, we receive specific lessons on Children's Rights and we have our Rights Ambassadors that ensure we as a school adopt and practice these rights and that other pupils are aware of their rights.

Calendr Misol Hawliau Plant / Children's Rights Monthly Calendar

 

Dyma rhai o’n Llysgenhadon Gwych yn cwrdd â Sally Holland dros y blynyddoedd / Here are some of our Great Ambassadors meeting Sally Holland over the years:

                      

Dyma ein Llysgenhadon Hawliau Plant y flwyddyn hon 2021-2022 / Here are our Children's Rights Ambassadors for the upcoming year 2021-2022: