Croeso / Welcome
Cefndir
Mae Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn ysgol benodedig Gymraeg wedi’i lleoli yn Llwynhendy, Llanelli. Agorwyd yr adeilad wreiddiol ar Ddydd Iau, Hydref 15fed, 1953 gan yr Anrhydeddus James Griffiths – gyda’r disgyblion yn cyrraedd ar Ragfyr 1af.
Adeiladwyd yr ysgol wreiddiol ar safle fferm lle tyfwyd y sierfel. Y sierfel a roddodd yr enw i’r fferm ac yna i’r ysgol.
Agorwyd adeilad newydd yr ysgol ym Mehefin 2011 am gost o £6.5 miliwn. Mae’r ysgol fodern hon ar ddwy lefel gydag adnoddau ardderchog ar gyfer TGCh, Ymarfer Corff a datblygiad sgiliau.
“Bach yw hedyn pob mawredd.”
Arwyddair yr ysgol yw ‘Bach yw hedyn pob mawredd’. Gellir cyfieithu hyn i’r Saesneg, sef: “Small is the seed of all greatness” sy’n cyfateb i “Great oaks from little acorns grow”. Dewiswyd y ddihareb hon fel arwyddair i’r ysgol er mwyn argyhoeddi’r disgyblion o’u gallu i dyfu’n ddinasyddion ardderchog ac unigolion arbennig. Rhan o’n pwrpas ni yw ceisio cyfleu mawredd reddfol y bersonoliaeth ddynol.
Background
Ysgol Gymraeg Brynsierfel is a designated Welsh-medium primary school situated in Llwynhendy, Llanelli. The original building was officially opened on Thursday, October 15th 1953 - by the Right Honourable James Griffiths - with the pupils arriving on December 1st.
The original school was built on the site of a farm where the ‘sierfel’ (cherfil) grew. The ‘sierfel’ gave its name to the farm and later to the school itself.
The new school building was opened in June 2011 and cost £6.5 million. The ultra-modern school is on two levels with excellent facilities for ICT, PE and the development of skills.
“Bach yw hedyn pob mawredd.”
The school motto is ‘Bach yw hedyn pob mawredd’. It can be translated as: “Small is the seed of all greatness” which corresponds to “Great oaks from little acorns grow”. This old proverb was chosen as the school’s motto to help nurture in the pupils the conviction that they can grow into excellent citizens and very special individuals. Trying to convey the innate greatness of the human personality is part of our purpose.