Fel Pennaeth Dros Dro Ysgol Gymraeg Brynsierfel, teimlaf yn hynod o falch o arwain tîm, yn wir, teulu o staff ymroddedig a brwdfrydig sy’n rhoi anghenion ein plant yn gyntaf. Ein nod yw creu amgylchedd cartref-oddi-cartref ar gyfer ein dysgwyr, lle gallant gael eu meithrin i ffynnu a thyfu. Anelwn at lwyddo i greu diwylliant gofalgar a chynhwysol sy'n dathlu ein hunaniaeth, fel "calon cymuned Cefncaeau."
Arwyddair yr ysgol yw ‘Bach yw hedyn pob mawredd’. Gellir cyfieithu hyn i’r Saesneg, sef: “Small is the seed of all greatness” sy’n cyfateb i “Great oaks from little acorns grow”. Dewiswyd y ddihareb hon fel arwyddair i’r ysgol er mwyn argyhoeddi’r disgyblion o’u gallu i dyfu’n ddinasyddion ardderchog ac unigolion arbennig. Rhan o’n pwrpas ni yw ceisio cyfleu mawredd reddfol y bersonoliaeth ddynol. Gan ein bod yn ysgol sy’n parchu hawliau, rydym yn gwerthfawrogi barn ein disgyblion yn fawr. Rydym bob amser yn barod i wrando ar lais ein cymuned, felly mae croeso i chi rannu eich barn gyda ni.
As Acting Headteacher at Ysgol Gymraeg Brynsierfel, I feel extremely proud to lead a team, indeed a family of dedicated and enthusiastic staff who put the needs of our children first. We aim to create a home-from-home environment for our learners, in which they may be nurtured to thrive and grow. We aim to succeed in creating a caring and inclusive culture that celebrates our identity, as the "heart of the Cefncaeau community." Being a rights-respecting school, we highly regard the opinions of our pupils. We always appreciate the input from our community, so please do not hesitate to share your thoughts with us.
The school motto is ‘Bach yw hedyn pob mawredd’. It can be translated as: “Small is the seed of all greatness” which corresponds to “Great oaks from little acorns grow”. This old proverb was chosen as the school’s motto to help nurture in the pupils the conviction that they can grow into excellent citizens and very special individuals. Trying to convey the innate greatness of the human personality is part of our purpose.
Mrs Zoe Jermin-Jones
There are currently no upcoming events.
No newsletters could be found.